A Collective
Movement 
to protect Wales 
through the Arts 
Mudiad ar y Cyd i ddiogelu Cymru drwy'r Celfyddydau

Putting the Arts at the forefront of our Nations great fight to save our precious lands.

Rhoi'r Celfyddydau ar flaen y gad ym mrwydr fawr ein Cenedl i achub ein tiroedd gwerthfawr.

We are a collective of creatives from accross Wales, who have come together with a joint  desire to protect and support this ancient beautiful land. 

Casgliad o artistiaid ydym ni o bob cwr o Gymru, sac rydym wedi dod ynghyd gan fod awydd cyffredin gyda ni i ddiogelu a chynnal y tir hardd a hynafol hwn.

Campaign

Here Be Dragons is a campaign that aims to bring attention to the enormous turbine parks and pylon lines that are threatening devastation to our uplands, across Wales. 

We have mapped out our campaign to stretch across 2026 with our short film being the first major drop. 

Our campaign is intended to unify and amplify the many local campaign groups across wales doing the hard graft against this destruction. 

 

Ymgyrch

Mae Yma Mae Dreigiau’n ymgyrch sy'n anelu at dynnu sylw at y parciau tyrbinau a'r llinellau peilon enfawr sy'n bygwth dinistr i'n hucheldiroedd, ledled Cymru.

Rydym wedi mapio ein hymgyrch dros 2026 a'n ffilm fer yw ein prif ddigwyddiad cyntaf.

Bwriad ein hymgyrch yw uno ac ymhelaethu’r grwpiau ymgyrchu lleol niferus ledled Cymru sy'n gwneud y gwaith caled yn erbyn y dinistr hwn.

Creatives

We are a collective of creatives from accross Wales, who have come together with a joint  desire to protect and support this ancient beautiful land. 

We have Film makers, singer song writers, writers, actors and artists on our team.

We are all working on a voluntary basis, this is a project of passion and belief that we can make a fairer world. 

If you feel called to offer your skills or support creatively please get in touch.

We would love to hear from you. 

 

Y rhai sy’n creu

Casgliad o artistiaid ydym ni o bob cwr o Gymru, sac rydym wedi dod ynghyd gan fod awydd cyffredin gyda ni i ddiogelu a chynnal y tir hardd a hynafol hwn.

Mae gwneuthurwyr ffilmiau, cyfansoddwyr caneuon, awduron, actorion ac artistiaid yn ein tîm gyda ni.

Rydym i gyd yn gweithio'n wirfoddol, mae hwn yn brosiect llawn angerdd a chred y gallwn greu byd tecach.

Os ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi cael eich galw i gynnig eich sgiliau neu gefnogi'n greadigol, cysylltwch â ni.

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Short Film

As a collective we are creating a short film to raise awareness about the threat we face here in Wales. 

This is being designed and dreamt in by some of Wales' most prestigious  contemporary artists. 

Its aim is to remind us of our deep connection to the land and our roots.

 

Ffilm fer

Fel cydweithfa, rydym yn creu ffilm fer i godi ymwybyddiaeth am y bygythiad yr ydym yn ei wynebu yma yng Nghymru.

Mae hon yn cael ei dylunio a'i breuddwydio gan rai o artistiaid cyfoes mwyaf nodedig Cymru.

Ei nod yw ein hatgoffa am ein cysylltiad dwfn â'r tir a'n gwreiddiau.

 

Our Vision

We unite artists, musicians, and creatives to protect Wales' heritage.
Through collaboration, we raise awareness and inspire action.
Together, we can make a difference.

 

Ein gweledigaeth

Rydym yn uno artistiaid, cerddorion, a phobl greadigol i amddiffyn treftadaeth Cymru.

 Trwy gydweithio, rydym yn codi ymwybyddiaeth ac yn ysbrydoli gweithredu. 

Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.

 

We had a dream: for our hill tops to be celebrated by song, with the truest of deep callings from these lands, that of ancestral wisdom and connection to  the rugged,  raw beauty that we are surrounded by. 

To remind us all of what is most precious and dear to our hearts- to remind us to stand up for that which we love. 

We have some of our most prominent Welsh musicians and visionaries working to create a collaborated short film.  

With our collective passion to save Wales from plans that are advancing for developments of unprecedented industrial scale, in the shape of vast turbine arrays, pylons, roads, substations, and even AI data centres, we are fired up.

These proposals risk transforming some of the most ancient and culturally significant parts of Wales into industrial zones, with little regard for the communities who live in their shadow or the deep heritage that these lands hold.

 

Roedd gennym freuddwyd: 

i gopaon ein bryniau gael eu dathlu trwy gân, gyda'r galwadau mwyaf gwir o ddwfn o'r tiroedd hyn, sef doethineb hynafol a chysylltiad â'r harddwch garw, amrwd yr ydym wedi'n hamgylchynu ganddo.

I'n hatgoffa ni i gyd o'r hyn sydd fwyaf gwerthfawr ac annwyl i'n calonnau - i'n hatgoffa i sefyll dros yr hyn yr ydym yn ei garu.

Mae rhai o'n cerddorion a'n gweledyddion mwyaf flaengar Cymru gyda ni yn gweithio gyda’i gilydd i wneud ffilm fer.

 

Gyda'n hangerdd ar y cyd i achub Cymru rhag cynlluniau sy'n symud ymlaen ar gyfer datblygiadau o raddfa ddiwydiannol ddigynsail, ar ffurf araeau tyrbinau enfawr, peilonau, ffyrdd, is-orsafoedd, a hyd yn oed canolfannau data AI, rydym wedi ein tanio.

Mae'r cynigion hyn yn peryglu trawsnewid rhai o rannau mwyaf hynafol a diwylliannol arwyddocaol Cymru yn barthau diwydiannol, heb fawr o ystyriaeth i'r cymunedau sy'n byw yn eu cysgod na'r dreftadaeth ddofn sydd gan y tiroedd hyn.

This is not a protest.

It is not a campaign of outrage.

It is a cultural movement — elegant, resolute, and unapologetically Welsh — calling for an energy transition grounded in care, consent, and intelligence rather than haste and extraction.

Nid protest yw hon.

Nid ymgyrch o ddicter yw hi.

Mudiad diwylliannol yw hwn- cain, cadarn, a Chymreig heb ymddiheuriad – sy’n galw am drawsnewid ynni wedi'i seilio ar ofal, caniatâd, a deallusrwydd yn hytrach na brys ac echdynnu.

 

Deeper Dive
Ymchwiliad Manylach

Explore the threat we are facing in more detail:

Archwiliwch yn fanylach y bygythiad sy’n ein hwynebu yn fanylach:

Legal Action

Communities across rural Wales have taken a stand for fairness, safety, and respect. 

300 farmers and landowners have launched  High Court legal action against Green GEN Cymru, which challenges what we believe to be unlawful access to private land, intimidation, and a complete disregard for basic rights and biosecurity.

Read all about it here:

Justice for Wales 

 

Camau Cyfreithiol

Mae cymunedau  cefn gwlad Cymru wedi sefyll dros degwch, diogelwch a pharch.

Mae 300 o ffermwyr a thirfeddianwyr wedi cychwyn camau cyfreithiol yn yr Uchel Lys yn erbyn Green GEN Cymru, sy'n herio'r hyn yr ydym yn ei gredu yw mynediad anghyfreithlon i dir preifat, bygythiad, sy hefyd yn anwybyddu hawliau sylfaenol a bioddiogelwch yn llwyr.

Darllenwch amdano yma: 

Cyfiawnder i Gymru

Ecology

As well as being a Trustee and Secretary of the Cambrian Mountains Society, Lorna Brazell knows a great deal about the generation of electricity using wind turbines. The threat of the construction of dozens of 200 metre tall turbines in the unspoilt Cambrian Mountains of mid-Wales has set all the alarm bells ringing. Learn the shocking facts in this video.

Thanks to the Caru Teifi Ceredigeon campaign group you can view a live map of the proposed parks and pylon lines here.

 

Ecoleg

Yn ogystal â bod yn Ymddiriedolwr ac Ysgrifennydd Cymdeithas Mynyddoedd Cambria, mae Lorna Brazell yn gwybod llawer am gynhyrchu trydan gan ddefnyddio tyrbinau gwynt. Mae bygwth adeiladu dwsinau o dyrbinau 200 metr o uchder ym Mynyddoedd Cambria yn bryder i bob un ohonom yn enwedig gan fod hon yn ardal yng nghanolbarth Cymru sydd heb ei difetha. Cewch ddysgu am y ffeithiau brawychus yn y fideo hwn.

Cewch weld map byw o'r parciau a'r llinellau peilon arfaethedig gyda diolch i grŵp ymgyrchu Caru Teifi Ceredigion amdano yma.

 

 

Science

There are many reasons the proposed energy parks are highly destructive to our land and communities. 

One of the emergent problems that is being researched is infrasound. You can watch prof.Ken Mattsson deliver his paper here.

And here- Michael's Story a 5 min film about a man who was so affected by a local turbine infrasound, he had to move house.

 

Gwyddoniaeth

Mae llawer o resymau pam mae'r parciau ynni arfaethedig yn hynod ddinistriol i'n tir a'n cymunedau.

Un o'r problemau sy'n dod i'r amlwg ac sy'n cael ei ymchwilio yw is-sain. Gallwch wylio'r Athro Ken Mattsson yn cyflwyno ei bapur yma.

Ac yma – Mae Stori Michael, yn ffilm 5 munud o hyd am ddyn a gafodd ei effeithio cymaint gan is-sain tyrbin lleol, bu rhaid iddo symud i fyw rhywle arall.

 

 

Protection

There are many groups across Wales who are working tirelessly to safeguard our countryside, our biodiversity, our rivers and our landscapes.

Community groups have come together from across Wales and launched A Charter for a Just Transition to Net Zero, calling on the Welsh and UK Governments to ensure that renewable energy development is delivered fairly, transparently and with genuine community consent.

View list of organised groups here

View the Charter

 

Diogelu

Mae llawer o grwpiau ledled Cymru sy'n gweithio'n ddiflino i ddiogelu ein cefn gwlad, ein bioamrywiaeth, ein hafonydd a'n tirweddau.

Mae grwpiau cymunedol wedi dod ynghyd o bob cwr o Gymru a lansio Siarter ar gyfer Pontio Cyfiawn i Sero Net, gan alw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i sicrhau bod datblygiad ynni adnewyddadwy yn cael ei gyflawni'n deg, yn dryloyw a chyda chydsyniad dilys gan gymunedol.

Cewch weld rhestr o grwpiau wedi'u trefnu yma

Cewch weld y Siarter 

Join Our Campaign 
of Creative 
Resistance
Ymunwch â'n Hymgyrch 
Creaddigol a iannol ar gyfer Newid

Creativity for Change

Information icon

We need your consent to load the translations

We use a third-party service to translate the website content that may collect data about your activity. Please review the details in the privacy policy and accept the service to view the translations.